Arweinyddiaeth a dysgu
Dan arweiniad Nina Ruddle - Pennaeth Ymgysylltu â Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Glyndwr Wrecsam
​
“Ein nod oedd siapio rhaglen arweinyddiaeth newydd i gefnogi arweinwyr presennol ac arweinwyr sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r heriau o alw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus gydag adnoddau'n lleihau a heriau cymdeithasol cymhleth.”
​
Cefndir
Gwnaethom gydnabod bod yr heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd o gynyddu'r galw ar wasanaethau cyhoeddus, ynghyd ag adnoddau'n lleihau a heriau cymdeithasol cymhleth, angen ffyrdd newydd o feddwl, gweithio a chydweithio i alluogi newid.
Ynghyd â gofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i weithio mewn ffyrdd newydd, ein nod oedd llunio rhaglen arweinyddiaeth newydd i gefnogi arweinwyr presennol ac arweinwyr sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol hyn.
​
Cylchgrawn sef Llesiant
​
Mae myfyrwyr dylunio graffig ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi cydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gogledd Cymru i greu cylchgrawn newydd sy'n canolbwyntio ar lesiant cymunedau'r rhanbarth.
Mae'r cylchgrawn, sef Llesiant, yn dwyn ynghyd rhywfaint o'r data allweddol o asesiadau llesiant y rhanbarth a gynhaliwyd dan arweiniad Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych, a Gwynedd a Môn. Ei nod yw creu darlun o sefyllfa lesiant cymunedau gogledd Cymru ar hyn o bryd a chefnogi cynllunio llesiant er mwyn gwella hyn ar gyfer y dyfodol.
Bob pum mlynedd, mae'n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, asesu llesiant eu hardal a chynnal asesiad llesiant a ddefnyddir fel sylfaen i ddatblygu cynllun llesiant yr ardal honno. Mae'r cynllun hwnnw'n disgrifio sut y bydd cyrff cyhoeddus yn cydweithio i wella a chyfoethogi llesiant cymunedol.
Yng ngogledd Cymru, mae'r asesiadau hyn wedi cael eu datblygu drwy gydweithio'n agos â chymunedau er mwyn dod i ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl leol. Mae'r gwaith hwn ar y cyd â myfyrwyr PGW yn ceisio adeiladu ar y dull hwn drwy annog y myfyrwyr i astudio a dehongli'r data er mwyn cynhyrchu adnodd arloesol a chreadigol y gall y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei ddefnyddio i barhau i annog cymunedau a chyrff cyhoeddus i ddeall blaenoriaethau llesiant y rhanbarth, a gweithredu arnynt.
​
​
​
​
​
Mae'r gwaith yn cynnwys:
Mewn partneriaeth â Do-Well, gwnaethom gyd-greu cwrs arweinyddiaeth systemau ym Mhrifysgol Glyndwr gyda dros 120 o bartneriaid yn ystod 2018/19. Mae nifer o garfannau wedi ymgymryd â'r rhaglen gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir y Fflint, y gymdeithas dai Grwp Cynefin, a thimau partneriaeth sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl.
Fe wnaethom hefyd gyflwyno nifer o ddosbarthiadau meistr i Lywodraethwyr ledled Cymru i'w cefnogi i weithredu'r Cwricwlwm ar gyfer Cymru 2022. Mae'r gwaith hwn wedi creu cymuned o arweinwyr ac wedi sicrhau ein bod yn dal y model TDoG i rannu dysgu.
Bydd y ffocws ar arweinyddiaeth systemau yn parhau mewn sawl ffordd ledled Gogledd Cymru. Gan ddefnyddio Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru newydd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rydym yn cyd-greu Labordy Gwasanaeth Cyhoeddus Gogledd Cymru, gofod deallusol a chorfforol sy'n dod â phobl a chymunedau ynghyd i archwilio heriau cymdeithasol a datblygu atebion. Bydd ymchwil ac arloesedd cymhwysol yn sail i hyn.